R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag aelodau o Lywodraeth y DU ynghylch gwneud y mwyaf o fanteision HS2 i Gymru? OAQ(4)1631(FM)W
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhagolygon economaidd ar gyfer Cymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ(4)1639(FM)
3. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am deledu cylch cyfyng yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)1643(FM)
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o ran mesurau i ddiogelu treftadaeth Cymru? OAQ(4)1638(FM)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau llywodraeth lleol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1628(FM)
6. Lynne Neagle: (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau yn Nhorfaen? OAQ(4)1642(FM)
7. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gofal i gleifion canser yng Nghwm Cynon? OAQ(4)1633(FM)
8. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Tasglu Purfa Murco? OAQ(4)1644(FM)
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gofal dementia? OAQ(4)1630(FM) TYNNWYD YNOL
10. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1627(FM)
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau gweithredu sydd wedi eu cymryd gan glystyrau Cymunedau yn Gyntaf i wella iechyd? OAQ(4)1629(FM)
12. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar echdynnu nwy drwy ddulliau anghonfensiynol? OAQ(4)1641(FM)
13. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â materion cyllido? OAQ(4)1637(FM)W
14. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc o gefndiroedd tlotach i gael mynediad i addysg uwch? OAQ(4)1640(FM)
15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cynnal gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynglŷn â Bil Cymru? OAQ(4)1634(FM)W